{"id":4944,"date":"2016-10-10T13:33:13","date_gmt":"2016-10-10T13:33:13","guid":{"rendered":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/?p=4944"},"modified":"2016-10-31T14:44:53","modified_gmt":"2016-10-31T14:44:53","slug":"new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/","title":{"rendered":"Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed"},"content":{"rendered":"<p>Mae bragdy crefft wedi bragu cwrw arbennig i bawb godi gwydryn i gofio pen-blwydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 70 oed y flwyddyn nesaf.<\/p>\n<p>Bydd Ynyr Evans, pennaeth y poblogaidd Fragdy Llangollen yn Llandysilio ychydig i fyny\u2019r ffordd o faes yr Eisteddfod enwog, yn helpu carwyr cwrw i ddweud \u2018iechyd da\u2019 wrth yr Eisteddfod wrth lansio\u2019i gwrw yng ng\u0175yl fwyd Hamper Llangollen eleni.<\/p>\n<p><!--more--><\/p>\n<p>Mae\u2019n si\u0175r y bydd pawb wrth eu bodd yn blasu Harmony Ale, sydd wedi\u2019i ysbrydoli gan draddodiad balch yr Eisteddfod o ddefnyddio cerddoriaeth i hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ymysg cenhedloedd.<\/p>\n<p>Disgwylir i filoedd o folgwn heidio i\u2019r \u0175yl fwyd boblogaidd pan ddaw\u2019r dref ymwelwyr yn Sir Ddinbych yn brifddinas goginio Cymru ar benwythnos 15 a 16 Hydref.<\/p>\n<p>Bydd dathlu mawr yn yr Eisteddfod fis Gorffennaf nesaf, 70 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf ym 1947 i feithrin cymod a chyfeillgarwch yn y blynyddoedd tywyll ar \u00f4l diwedd yr Ail Ryfel Byd.<\/p>\n<p>Dyna achosodd Ynyr, 31 mlwydd oed, i gynhyrchu ei gwrw newydd sydd, meddai, wedi\u2019i gyfuno\u2019n arbennig i greu blas cynnil, cymodlon.<\/p>\n<p>\u201cRwyf wedi bod yn gweithio ar y cwrw newydd ers rhai misoedd, roeddwn i eisiau cael y blas yn hollol iawn\u201d eglurodd.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n gwrw chwerw traddodiadol, eithaf brown, gyda digon o hopys i adael blas cynnil i gyfleu awyrgylch gymodlon yr Eisteddfod.<\/p>\n<p>\u201cRwyf wrth fy modd yn yr Eisteddfod ac mynd iddi ers sawl blwyddyn, fel ymwelydd a chyflenwr cwrw, ar y maes ac yn y bariau o dan do. \u201d<\/p>\n<p>Wrth gynhyrchu Harmony Ale, pwysodd Ynyr yn drwm ar ei flynyddoedd o brofiad bragu a ddechreuodd pan aeth gyda\u2019i ewythr, Steven Evans, sy\u2019n berchen Gwesty\u2019r Abbey Grange a nifer o dafarndai yn yr ardal, i\u2019r busnes bragu cwrw yn \u00f4l yn 2010.<\/p>\n<p>Mae\u2019r bragdy newydd lle\u2019r oedd siop fferm Abbey Grange ar y ffordd i Fwlch yr Oernant ger Abaty hanesyddol Glyn y Groes.<\/p>\n<p>Mae Ynyr, sydd \u00e2 gradd mewn daearyddiaeth a gradd feistr mewn rheolaeth cefn gwlad, yn cofio\u2019r dyddiau cynnar pan mai dim ond 250 litr o gwrw golau oedd yn cael ei gynhyrchu ar bob brag ond mae\u2019n cofio hefyd yr ehangu a ddigwyddodd yn fuan ar \u00f4l hynny.<\/p>\n<p>Meddai: \u00a0\u201cRydyn ni wedi ymestyn y bragdy i\u2019r hen stablau y tu \u00f4l i\u2019r gwesty ac wedi cynyddu\u2019r br\u00e2g yn raddol nes ein bod, erbyn hyn, yn cynhyrchu 2,200 litr bob tro.\u00a0 Mae ein staff hefyd wedi tyfu i dri llawn amser a dau rhan amser.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n gwerthu i ugeiniau o dafarnau ledled gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ond yn canolbwyntio\u2019n bennaf o ddigon ar ein cwsmeriaid lleol.<\/p>\n<p>Hamper Llangollen, Colin Loughlin with Ynyr Evans, Llangollen Brewery.<\/p>\n<p>\u201cDim ond y cynhwysion gorau a d\u0175r tanddaearol lleol ydyn ni\u2019n eu defnyddio i gynhyrchu ein cwrw gwledig nodweddiadol, fel cwrw chwerw Llangollen a Welsh Black, \u00a0Grange No 1 a chwrw golau Borders a Llangollen Lager.<\/p>\n<p>\u201cFlwyddyn neu ddwy yn \u00f4l, fe benderfynon ni fragu cwrw o\u2019r enw Holy Grail a gafodd ei ysbrydoli gan chwedl yn yr ardal ynghylch abaty Sistersaidd Glyn y Groes a Chastell Dinas Br\u00e2n, sy\u2019n uchel ar ben y bryn uwchben Llangollen.<\/p>\n<p>\u201dYn \u00f4l yr hanes, y castell oedd lle gorffwys olaf y Greal Sanctaidd, y cwpan y bu\u2019r Iesu yn yfed ohono yn y Swper Olaf a bod yna dwnnel o\u2019r castell yr holl ffordd i\u2019r abaty islaw.<\/p>\n<p>\u201cCafodd y cwrw ei lansio yn Hamper Llangollen a chafodd gymaint o groeso nes i ni benderfynu dal i\u2019w gynhyrchu.<\/p>\n<p>\u201cUn brag o Harmony Ale fyddwn i\u2019n ei wneud, sy\u2019n golygu y bydd gennym ni 2,200 litr mewn casgenni naw galwyn yn gwerthu am tua \u00a33 y peint.<\/p>\n<p>\u201cYn ogystal \u00e2\u2019i lansio ar ein stondin yn yr \u0175yl fwyd, byddwn yn gwerthu ychydig ohono hefyd i dafarnau\u2019r ardal i gael barn y bobl amdano. \u00a0Os bydd yn gwneud yn dda, efallai y byddwn yn ei gadw yntau hefyd.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n edrych ymlaen yn arw iawn at fod yn Hamper Llangollen unwaith eto, mae\u2019n \u0175yl mor boblogaidd, fydden ni byth yn ei cholli ac rydyn ni\u2019n methu \u00e2 byw yn ein croen cyn cael dangos ein Harmony Ale newydd i\u2019r byd.<\/p>\n<p>Roedd swyddog marchnata\u2019r Eisteddfod, Megan McNutt, wrth ei bodd bod Ynyr wedi mynd i\u2019r drafferth i fragu cwrw newydd yn arbennig i ddathlu pen-blwydd mawr yr Eisteddfod.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n syniad hyfryd ac rydyn ni\u2019n diolchgar iawn iddo\u201d, meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n arbennig o braf fod yr Eisteddfod yn denu cefnogaeth fel hyn gan fenter leol hynod lwyddiannus oherwydd, yn ogystal \u00e2\u2019i hagwedd ryngwladol, mae\u2019r Eisteddfod yn hynod ddibynnol ar gefnogaeth y gymdogaeth.<\/p>\n<p>Mae cadeirydd Hamper Llangollen, Colin Louchlin, hefyd yn edrych ymlaen at flasu\u2019r cwrw newydd.<\/p>\n<p>Meddai: \u00a0\u201cRwy\u2019n meddwl ei fod yn syniad gwych creu cwrw newydd i ddathlu\u2019r garreg filltir enfawr hon yn hanes yr Eisteddfod.<\/p>\n<p>\u201cMae dewis y bragdy o Hamper Llangollen i\u2019w lansio yn ffordd berffaith o ddod \u00e2\u2019r ddwy \u0175yl eiconig yn y dref at ei gilydd.<\/p>\n<p>\u201cRydyn ni\u2019n edrych ymlaen yn arw at \u0175yl fwyd arbennig iawn eleni. \u00a0\u201cDiolch i lu o gwmn\u00efau brodorol, mae gogledd-ddwyrain Cymru\u2019n brysur ennill bri fel canolfan o ragoriaeth am fwyd o\u2019r ansawdd gorau.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r \u0175yl fwyd yn ffenestr siop berffaith i gwmn\u00efau sy\u2019n asgwrn cefn ein heconomi gwledig.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r\u00a0 Pafiliwn mewn lle hynod o hardd \u2013 alla i ddim dychmygu fod unrhyw \u0175yl fwyd yng ngwledydd Prydain mewn lle harddach.\u201d<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ymddiheuraf, does dim ar gael yn Gymraeg.A craft brewery has created a special ale so beer lovers can raise a&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/\" title=\"Darllen Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed\">Darllen rhagor &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":10,"featured_media":4945,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[27,8,29],"tags":[454,453,455,213,324],"class_list":["post-4944","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-featured","category-music","category-news","tag-anniversary","tag-beer","tag-event","tag-festival","tag-the-llangollen-international-musical-eisteddfod"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.5 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"[:en]New Harmony Ale to toast iconic festival&#039;s landmark 70th anniversary [:cy]Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed[:] - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ymddiheuraf, does dim ar gael yn Gymraeg.A craft brewery has created a special ale so beer lovers can raise a... Darllen rhagor &raquo;\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/llangollen\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2016-10-10T13:33:13+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2016-10-31T14:44:53+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Special-Brew.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"900\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"marketing\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@llangollen_Eist\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@llangollen_Eist\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"marketing\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"marketing\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/1f5ee7915516a2fabcad18dcd5593981\"},\"headline\":\"Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed\",\"datePublished\":\"2016-10-10T13:33:13+00:00\",\"dateModified\":\"2016-10-31T14:44:53+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/\"},\"wordCount\":1853,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/i0.wp.com\\\/news.limearchive.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/10\\\/Special-Brew.jpg?fit=900%2C600&ssl=1\",\"keywords\":[\"Anniversary\",\"Beer\",\"Event\",\"festival\",\"The Llangollen International Musical Eisteddfod\"],\"articleSection\":[\"Arbennig\",\"Music\",\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/\",\"name\":\"[:en]New Harmony Ale to toast iconic festival's landmark 70th anniversary [:cy]Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed[:] - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/i0.wp.com\\\/news.limearchive.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/10\\\/Special-Brew.jpg?fit=900%2C600&ssl=1\",\"datePublished\":\"2016-10-10T13:33:13+00:00\",\"dateModified\":\"2016-10-31T14:44:53+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/i0.wp.com\\\/news.limearchive.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/10\\\/Special-Brew.jpg?fit=900%2C600&ssl=1\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/i0.wp.com\\\/news.limearchive.org.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/10\\\/Special-Brew.jpg?fit=900%2C600&ssl=1\",\"width\":900,\"height\":600},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"New Harmony Ale to toast iconic festival&#8217;s landmark 70th anniversary\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/\",\"name\":\"Llangollen International Musical Eisteddfod\",\"description\":\"[:en]News Archive[:cy]Archif Newyddion[:]\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/#organization\",\"name\":\"Llangollen International Musical Eisteddfod\",\"url\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/i0.wp.com\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/12\\\/2025-orange-full.jpg?fit=1024%2C341&ssl=1\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/i0.wp.com\\\/international-eisteddfod.co.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/12\\\/2025-orange-full.jpg?fit=1024%2C341&ssl=1\",\"width\":1024,\"height\":341,\"caption\":\"Llangollen International Musical Eisteddfod\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/llangollen\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/llangollen_Eist\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/in\\\/llangollen-international-musical-eisteddfod-376aa356\\\/\",\"https:\\\/\\\/www.youtube.com\\\/user\\\/Llangollen1947\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/1f5ee7915516a2fabcad18dcd5593981\",\"name\":\"marketing\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a95229117f933320e53706ae082731756fe1d260052d43a22bef819f98591e0a?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a95229117f933320e53706ae082731756fe1d260052d43a22bef819f98591e0a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a95229117f933320e53706ae082731756fe1d260052d43a22bef819f98591e0a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"marketing\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/news.limearchive.org.uk\\\/cy\\\/author\\\/marketing\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"[:en]New Harmony Ale to toast iconic festival's landmark 70th anniversary [:cy]Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed[:] - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"[:en]New Harmony Ale to toast iconic festival's landmark 70th anniversary [:cy]Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed[:] - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen","og_description":"Ymddiheuraf, does dim ar gael yn Gymraeg.A craft brewery has created a special ale so beer lovers can raise a... Darllen rhagor &raquo;","og_url":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/","og_site_name":"Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/llangollen","article_published_time":"2016-10-10T13:33:13+00:00","article_modified_time":"2016-10-31T14:44:53+00:00","og_image":[{"width":900,"height":600,"url":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Special-Brew.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"marketing","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@llangollen_Eist","twitter_site":"@llangollen_Eist","twitter_misc":{"Written by":"marketing","Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/"},"author":{"name":"marketing","@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/#\/schema\/person\/1f5ee7915516a2fabcad18dcd5593981"},"headline":"Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed","datePublished":"2016-10-10T13:33:13+00:00","dateModified":"2016-10-31T14:44:53+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/"},"wordCount":1853,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/i0.wp.com\/news.limearchive.org.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Special-Brew.jpg?fit=900%2C600&ssl=1","keywords":["Anniversary","Beer","Event","festival","The Llangollen International Musical Eisteddfod"],"articleSection":["Arbennig","Music","Newyddion"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/","url":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/","name":"[:en]New Harmony Ale to toast iconic festival's landmark 70th anniversary [:cy]Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed[:] - Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen","isPartOf":{"@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/i0.wp.com\/news.limearchive.org.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Special-Brew.jpg?fit=900%2C600&ssl=1","datePublished":"2016-10-10T13:33:13+00:00","dateModified":"2016-10-31T14:44:53+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/#primaryimage","url":"https:\/\/i0.wp.com\/news.limearchive.org.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Special-Brew.jpg?fit=900%2C600&ssl=1","contentUrl":"https:\/\/i0.wp.com\/news.limearchive.org.uk\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Special-Brew.jpg?fit=900%2C600&ssl=1","width":900,"height":600},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/new-harmony-ale-to-toast-iconic-festivals-landmark-70th-anniversary\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"New Harmony Ale to toast iconic festival&#8217;s landmark 70th anniversary"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/#website","url":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/","name":"Llangollen International Musical Eisteddfod","description":"[:en]News Archive[:cy]Archif Newyddion[:]","publisher":{"@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/#organization","name":"Llangollen International Musical Eisteddfod","url":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/i0.wp.com\/international-eisteddfod.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/2025-orange-full.jpg?fit=1024%2C341&ssl=1","contentUrl":"https:\/\/i0.wp.com\/international-eisteddfod.co.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/12\/2025-orange-full.jpg?fit=1024%2C341&ssl=1","width":1024,"height":341,"caption":"Llangollen International Musical Eisteddfod"},"image":{"@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/llangollen","https:\/\/x.com\/llangollen_Eist","https:\/\/www.linkedin.com\/in\/llangollen-international-musical-eisteddfod-376aa356\/","https:\/\/www.youtube.com\/user\/Llangollen1947"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/#\/schema\/person\/1f5ee7915516a2fabcad18dcd5593981","name":"marketing","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a95229117f933320e53706ae082731756fe1d260052d43a22bef819f98591e0a?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a95229117f933320e53706ae082731756fe1d260052d43a22bef819f98591e0a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a95229117f933320e53706ae082731756fe1d260052d43a22bef819f98591e0a?s=96&d=mm&r=g","caption":"marketing"},"url":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/author\/marketing\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4944","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/10"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4944"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4944\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4945"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4944"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4944"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.limearchive.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4944"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}